Blaenau'r Cymoedd - y problemau gwaetha' trwy wledydd Prydain
Fe fydd y newidiadau mewn budd-dal yn golygu bod rhagor o bobol Cymru’n byw mewn caledi yn hytrach na bod rhagor yn cael gwaith.

Ac fe fydd tua 30,000 o bobol yn colli eu budd-daliadau’n llwyr, yn ôl adroddiad gan ymchwilwyr o Brifysgol Hallam yn Sheffield.

Mae hefyd yn proffwydo nad oes fawr o obaith gostwng nifer y bobol sydd heb waith yng Nghymru i lefelau derbyniol o fewn y deng mlynedd nesa’ o leia’.

Mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried sefydlu cynllun creu gwaith tymor hir, yn enwedig yn yr hen Gymoedd diwydiannol.

Maint y broblem

Yn ôl yr adroddiad i Gynghrair y Cymunedau Diwydiannol, mae 303,000 o bobol yng Nghymru sydd o fewn oedran gweithio ond heb waith. Mae mwy na’r hanner ar fudd-dal anallu, sydd ar fin cael ei newid.

  • Yn y Cymoedd y mae’r broblem ar ei gwaetha’ yng ngwledydd Prydain i gyd. Ym Merthyr Tudful a Blaenau Gwent, mae mwy na chwarter y bobol mewn oed gwaith ar fudd-daliadau diweithdra. Mewn pump ardal, mae’r lefel tros 20%, tros 15% mewn naw arall a does yr un sir yng Nghymru o dan 10%.
  • Diffyg swyddi yw’r broblem, nid methiant pobol i’w cymryd nhw. Byddai angen creu 170,000 o swyddi trwy Gymru a 70,000 yn y Cymoedd er mwyn eu codi at lefel ardaloedd gorau gwledydd Prydain.
  • Fydd cynnydd economaidd yng Nghaerdydd ddim yn ddigon i ddatrys problemau’r Cymoedd – rhwng 1999 a 2008, dim ond 11,000 o swyddi sector preifat newydd a gafodd eu creu yno a 15,300 yn y sector cyhoeddus.
  • Fydd cynnydd yn y sector preifat ddim yn ddigon chwaith. Dim ond 25,000 o swyddi sector preifat newydd oedd wedi eu creu yng Nghymru yng “nghyfnod da” 1999-2008. Yn y Cymoedd, ac eithrio Pen-y-bont, fe gollwyd 14,000 o swyddi sector preifat.

Un ateb posib

Fydd cynlluniau Llywodraeth Prydain i ddiwygio’r system fudd-daliadau ddim yn gwneud llawer i helpu, yn ôl yr adroddiad, sy’n dweud y bydd mwy na 60,000 o bobol trwy Gymru’n colli budd-dal anallu a 30,000 yn colli eu budd-daliadau’n llwyr.

Fydd Rhaglen Waith Llywodraeth Prydain ddim yn gweithio chwaith – trwy dalu i gwmnïau preifat am dorri budd-daliadau, mae peryg y byddan nhw’n anwybyddu’r bobol lleia’ addawol. Diffyg swyddi yw’r broblem sylfaenol, meddai’r adroddiad.

Mae’r ymchwilwyr yn awgrymu sefydlu cynllun creu gwaith tymor hir. Fe fyddai creu gwaith i 20,000 o bobol yn costio £100 miliwn y flwyddyn – “bargen dda,” medden nhw.

Fe fyddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru wario £230 miliwn i’w greu, ond fe fyddai tua £130 miliwn yn cael ei arbed trwy lai o fudd-dal. Gan mai Llywodraeth Prydain a fyddai’n elwa o hynny, fe fyddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru fargeinio am beth o’r enillion.

Rhai dyfyniadau o’r adroddiad

“Dyw hi ddim yn ymddangos bod llawer o obaith o ostwng diweithdra (worklessness) ar fudd-daliadau yng Nghymru i lefelau derbyniol o fewn y deng mlynedd nesaf – o leiaf o fewn fframwaith polisi presennol ac arfaethedig.”

“Mae rhoi’r bai am lefelau uchel o ddiweithdra mewn rhannau o Gymru ar sgiliau isel y di-waith yn drysu rhwng achos ac effaith.”

“Diwygio’r drefn les sy’n gwbl gyfrifol am y gostyngiad arfaethedig mewn budd-daliadau. Dydyn nhw’n dibynnu dim o gwbl ar welliant mewn cyfleoedd gwaith.”

“Os na fydd niferoedd tebyg o swyddi newydd yn cael eu creu yng Nghymru, effaith y diwygiadau fydd anfon rhai hawlwyr o un rhan o’r system fudd-daliadau i un arall tra bod eraill, sy’n aros yn ddi-waith, yn cael eu gwthio allan yn llwyr o’r system fudd-daliadau.”

“Prif effaith diwygio’r system les felly fydd rhagor o galedi ariannol eang yn hytrach na gostyngiad mewn diweithdra.”

“Mae gan y sector preifat fynydd i’w ddringo i gynnig swyddi ar y graddfeydd sydd eu hangen, a dyw e ddim yn debyg o gyrraedd ymhellach na’r llethrau isaf.”