Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam yn prysur agosáu, mae Golwg360.com mewn cydweithrediad a Chymdeithas Yr Iaith Gymraeg yn cynnig gwobr arbennig i’r ŵyl.

Dyma gyfle i ennill tocyn adloniant wythnos lawn, i bob digwyddiad Cymdeithas Yr Iaith Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam! Mae manylion sut i gystadlu i’w canfod isod.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn eich gwahodd i ddod ar fwrdd Trên y Chwyldro yn un o brif glybiau nos y gogledd, yr Orsaf Ganolog, ar gyfer y gigs eleni.

Nos Sul, Gorffennaf 31: FFILM: SEPARADO

Ymddangosiad byw gan René Griffiths, seren ffilm Gruff Rhys!

Nos Lun, 1 Awst: NOSON GOMEDI Huw Marshall + Dr Hywel Ffiaidd

Nos Fawrth, 2 Awst: GIG TYNGED YR IAITH

Bryn Fôn, Al Lewis Band, Daniel Lloyd a Mr Pinc

Nos Fercher, 3 Awst TRÊN Y CHWYLDRO

50 Mlynedd o ganu roc a brwydro dros y Gymraeg

Nos Iau, 4 Awst GWRTHWYNEBU’R TORI-ADAU

Gyda chefnogaeth NUJ, BECTU, Undeb y Cerddorion, Undeb yr Ysgrifenwyr ac RMT

Mr Huw, Twmffat, Llwybr Llaethog

Nos Wener, 5 Awst YR ERYR A’R GOLOMEN –

GIG DROS HEDDWCH RHYNGWLADOL

Meic Stevens, Tecwyn Ifan, Lleuwen Steffan

Nos Sadwrn, 6 Awst DEFFRO’R DDRAIG

Brwydr celf ymladd gyda Pol Wong,

Mother of Six, Bob Delyn a Geraint Løvgreen

Mae mwy o fanylion a thocynnau ar werth ar-lein: cymdeithas.org/steddfod, ac mae gostyngiad arbennig wrth brynu tocynnau’r wythnos ymlaen llaw.

Cwestiwn: Pa un o’r perfformwyr uchod fu’n canu am Stesion Strata?

I gystadlu e-bostiwch eich ateb i cystadleuaeth@golwg.com erbyn dydd Llun 18 Gorffennaf.