Castell Penfro
Mae cwmni Tindle Newspaper wedi lansio papur newydd wythnosol newydd yn Sir Benfro.

Mae papur newydd The Pembroke and Pembroke Dock Observer tua deg milltir o ardal cylchrediad papur newydd arall y cyhoeddwyr Sir Ray Tindle, sef y Tenby Observer.

Yr un golygwyr fydd yn gweithio ar The Pembroke and Pembroke Dock Observer ond fe fydd yna ragor o waith i newyddiadurwyr ffrilans yr ardal.

Lansiodd y papur newydd ddydd Gwener ac mae disgwyl iddo werthu tua 1,500 o gopïau bob wythnos.

Dywedodd y rheolwr cyffredinol Andrew Adamson fod rhai siopau wedi gwerthu pob copi o’r papur cyntaf ac felly fe allai’r cylchrediad godi i 2,000.

Dywedodd Andrew Adamson wrth y Press Gazette eu bod nhw’n ymateb i alw’r gymuned yn Doc Penfro, oedd wedi bod yn anfon mwy a mwy o newyddion i’w gyhoeddi yn y Tenby Observer.

“Rydyn ni wrth ein boddau fod gan bobol Penfro a Doc Penfro bellach eu ffynhonnell newyddion eu hunain,” meddai.

“Yn ystod cyfnodau economaidd anodd mae’n bwysicach fyth fod pobol leol yn cael gwybod am faterion lleol o bwys, ac rydyn ni’n falch o allu darparu’r gwasanaeth hwnnw.”