Arwel Ellis Owen
Mae S4C wedi taro nôl ar ôl i bapur newydd honni fod y Prif Weithredwr dros-dro, Arwel Ellis Owen, yn cael cyflog mwy na’r Prif Weinidog.

Mae adroddiad blynyddol S4C, a gyhoeddwyd ddydd Iau, yn nodi bod Arwel Ellis Owen wedi derbyn £53,000 yn ystod y pump mis sy’n gynwysedig yn yr adroddiad.

Yn ôl papur newydd y Western Mail fe fyddai wedi derbyn cyflog blynyddol o £212,000 pe bai yn y swydd yn llawn amser, yn hytrach nag yn gweithio tridiau’r wythnos.

Mae’r papur newydd wedi beirniadu’r cyflog gan ddweud ei fod dipyn yn fwy nag oedd y cyn Brif Weithredwr Iona Jones wedi ei dderbyn yn yr un swydd.

Mae hefyd yn uwch na chyflog y Gweinidog Diwylliant San Steffan Jeremy Hunt, a’r Prif Weinidog, David Cameron.

Ond mae S4C wedi wfftio’r honiad, gan ddweud bod ffigyrau’r Western Mail yn “hollol anghywir”.

Dywedodd S4C eu bod nhw wedi talu arian ychwanegol i’r Prif Weithredwr dros-dro am waith a wnaethpwyd dros benwythnosau.

“Yn ystod y cyfnod a gyfeiriwyd ato yn ein hadroddiad blynyddol mae’r Prif Weithredwr wedi gweithio mwy o ddyddiau yn gyson na gytundebwyd ef i wneud,” meddai llefarydd ar ran y sianel.

Ychwanegodd y llefarydd mai gwaith cyhoeddus oedd peth o’r gwaith hwnnw.

Mae S4C bellach yn y broses o hysbysebu am brif weithredwr llawn-amser newydd i’r sianel. Y dyddiad cau yw 5pm ddydd Llun, 18 Gorffennaf.