Lesley Griffiths
Mae angen i ragor o bobol yng Nghymru gofrestru i roi organau, meddai’r Gweinidog Iechyd.

Er bod canran y bobol yn cynyddu, mae angen gwneud rhagor, meddai Lesley Griffiths ar ddechrau Wythnos Ryngwladol Trawsblannu.

Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru, mae 30% o bobol Cymru bellach wedi cofrestru, cynnydd o fwy na 2% ers y llynedd.

Mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno deddf newydd i wneud i bobol orfod dewid peidio â rhoi organau yn hytrach na gorfod dewis gwneud.

“Bob wythnos, mae un person yng Nghymru’n marw wrth aros i organau gael eu rhoi,” meddai’r Gweinidog. “Mae’r prinder rhoddwyr ar hyn o bryd yn parhau i achosi marwolaethau a dioddefaint y mae modd eu hosgoi.”

Aros am dair blynedd

Yn ôl mudiad sy’n ymgyrchu i gynyddu nifer y rhoddwyr trwy wledydd Prydain, mae pobol yn gorfod aros cyfartaledd o dair blynedd am organ newydd.

Erbyn hyn, mae 18 miliwn o bobol gwledydd wedi cofrestru i roi organau ond mae Cymdeithas Brydeinig y Meddygon – y BMA – eisiau i Lywodraeth Prydain ddilyn esiampl Cymru.

Yn ôl llefarydd, mae llawer o deuluoedd yn gwrthod rhoi caniatâd pan fydd perthnasau’n marw, oherwydd eu bod yn ansicr.