Fe fu farw’r seiciatrydd Dr Dafydd Huws o Gaerdydd.
Roedd yn 75 oed ac yn wyneb ac yn llais cyfarwydd ar y cyfryngau Cymraeg ar bob math o bynciau, yn enwedig materion yn ymwneud â’i waith.
Roedd hefyd wedi chwarae rhan amlwg a blaenllaw ym Mhlaid Cymru dros gyfnod o dros 40 mlynedd.
Talwyd teyrnged iddo gan arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones AC:
“Roedd Dafydd yn ffigur allweddol yn hanes ein Plaid a’r mudiad cenedlaethol ac mae ein dyled iddo yn enfawr.
“Fe wnaeth Dafydd gyfraniad sylweddol iawn fel cadeirydd, swyddog, ymgeidydd a chynghorydd y Blaid dros nifer fawr o flynyddoedd.
“Dwi’n cofio’r ffordd buodd yn cynnig arweiniad a chymorth enfawr i nifer fawr ohonom dros y blynyddoedd. Roedd yn credu’n gryf fod angen y Blaid fel plaid wleidyddol gref ar Gymru ac roedd ei gyfraniad i’n gwneud yn fwy proffesiynol yn fawr.
“Roedd ei angerdd a’i ymroddiad i’w wlad ar hyd y blynyddoedd yn amlwg i bawb ac mae Cymru yn wlad tlotach heddiw hebddo.
“Mae ein cydymdeimlad gyda Rhian a’r plant.”