Mick Rich, y cyn-ddisgybl, a nai Waldo, Teifryn Williams
Bod yn rhan o ddadorchuddio cofeb i’r bardd Waldo Williams yn Lloegr yw un o uchafbwyntiau ei gyfnod yn swydd yr Archdderwydd, meddai Jim Parcnest.

Ac yn ôl bardd Saesneg, fe allai fod yn ddechrau ar ymgyrch i dynnu sylw rhagor o bobol yn Lloegr at fawredd gwaith y bardd-heddychwr o Sir Benfro.

Dros y Sul, roedd yr Archdderwydd yn rhan o seremoni yn nhref fechan Kimbolton ger Huntingdon i gofio am yr ychydig tros flwyddyn a dreuliodd y bardd Cymraeg yno yn athro mewn ysgol fonedd.

Dyna pryd yr ysgrifennodd rai o’i gerddi mwya’, gan gynnwys Preseli, ei ble fawr tros gadw mynyddoedd ei febyd rhag cael eu meddiannu gan y fyddin.

Teulu’n cofio

Roedd rhai o deulu Waldo Williams a chynrychiolwyr Cymdeithas Waldo yno, gan ymuno gyda rhai o staff yr ysgol, un cyn ddisgybl oedd yn cofio’r bardd yno a rhai o Gymdeithas Hanes Kimbolton.

“Mae’n ardderchog fod pobol yn yr ardal hon yn cofio Waldo,” meddai’r Archdderwydd, T. James Jones, a gafodd ei gyflwyno dan ei enw barddol, Jim Parcnest. “Mae hwn yn un o fy uchafbwyntiau i yn fy nghyfnod yn Archdderwydd.

Yn ôl y cyn-ddisgybl, Mick Rich, roedd Waldo Williams yn ddyn caredig iawn ac yn athro da, oedd yn hoffi’r gwaith.

Ond roedd hefyd yn gallu colli’i dymer gan godi’i freichiau mewn rhwystredigaeth wrth fethu â gwthio Lladin i mewn i’w clopynnau nhw.

Ar y pryd, yn 1945-6, roedd Waldo Williams yn lletya mewn tŷ o’r enw Sunnyside, ym mhentref cyfagos West Perry. Mae hwnnw bellach yn wely a brecwast ond doedd y perchnogion ddim eisiau cofeb yno.


Y gofeb
‘Bardd o statws Ewropeaidd’

Er hynny, meddai athro Saesneg Ysgol Kimbolton John Greening, roedden nhw’n falch iawn fod y plac glas wedi’i osod mewn lle amlwg ar wal yr adeilad lle’r oedd Waldo Williams yn dysgu.

Roedd y bardd Cymraeg, meddai, yn ffigwr o statws Ewropeaidd ac roedd yn gobeithio y byddai mwy a mwy o bobol yn dod i adnabod ei waith.

“Dw i ddim yn credu bod pobol yn Lloegr yn sylweddoli bardd mor fawr oedd Waldo Williams,” meddai wrth Golwg 360. “Efallai bod hyn yn ddechrau ar ymgyrch i wneud i bobol sylweddoli hynny.”

Fe ddarllenodd John Greening gerdd o’i waith ei hun yn dychmygu Waldo Williams, yr heddychwr, yn dysgu mewn ardal oedd yn llawn meysydd awyr rhyfel ac yn byw mewn pentref a fyddai cyn hir ar lan argae i roi dŵr i’r dinasoedd.


T. James Jones yn darllen Preseli
Roedd T. James Jones hefyd wedi darllen Preseli, yn Gymraeg ac mewn cyfieithiad, gan nodi fel yr oedd wedi ei sgrifennu yn West Perry pan oedd 204 o ffermydd mewn peryg o gael eu meddiannu yn hen ardal Waldo ei hun.

‘Sôn amdano’

Roedd dadorchuddio’r gofeb yn bwysig iawn i’r teulu, meddai nai’r bardd, Gerwyn Williams.

“Oedd gyda ni feddwl mawr amdano,” meddai. “Oedd e’n ddyn hynod. Bydd sôn am Waldo am flynyddoedd i ddod. Ac mae’n anhygoel meddwl y bydd sôn amdano fe mewn lle fel hyn.”

Fe broffwydodd y newyddiadurwr Hefin Wyn, un o drefnwyr y seremoni, y byddai pererinion yn dod i Kimbolton i weld y gofeb.