Mae’r heddlu’n chwilio am yrwyr dau gerbyd na wnaeth stopio ar ôl taro cerddwyr mewn dau wrthdrawiad gwahanol yng Nghaerdydd ddoe.

Am 10.20 fore ddoe, yn Park Place yng nghanol y ddinas, cafodd dyn 75 oed ei daro i lawr gan gar Peugeot 206 coch wrth iddo groesi’r ffordd gerllaw’r amgueddfa. Fe aeth y car yn ei flaen i gyfeiriad Colum Road.

Aed â’r pensiynwr i’r ysbyty lle gwelwyd bod asgwrn wedi torri yn ei droed.

 Mewn digwyddiad arall deirarwr yn ddiweddarach, roedd mam yn croesi Ffordd Caerffili yn ardal y Waun gyda’i merch 18 mis oed mewn pram. Cafodd y pram ei daro gan gerbyd a’i dafllu i’r awyr. Aed â’r ferch fach i’r ysbyty lle cafodd driniaeth am doriadau i’w hwyneb.

Aeth y cerbyd, a gafodd ei ddisgrifio fel un hen a glas tywyll, ymlaen i gyfeiriad Ffordd Maes y Coed.

 Mae’r heddlu’n apelio ar i unrhyw un â gwybodaeth i helpu adnabod y cerbydau hyn gysylltu â nhw ar 101, neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.