Mae dynes wedi cael ei hachub o dân mewn tŷ yn Aberdaugleddau.
Fe wnaeth Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru anfon tair injan dân i dŷ ym Meyler Crescent yn y dref tua 11.30 y bore yma.
Fe wnaeth ymladdwyr tân achub y ddynes 44 oed o’r llawr cyntaf ar ôl i dân gynnau yn y parlwr ar y llawr gwaelod.
Dywedodd swyddogion tân eu bod nhw’n credu i’r tân gychwyn yn ddamweiniol.