Mae cynrychiolwyr capeli’r Annibynwyr wedi datgan eu cefnogaeth i ymgyrch i sicrhau dyfodol gorsafoedd gwylwyr y glannau yng Nghymru.

Mewn cynhadledd ym Miwmares heddiw, galwodd Undeb yr Annibynwyr ar lywodraeth Prydain i gadw gorsafoedd gwylwyr y glannau yng Nghymru ar agor ddydd a nos, fel y mae nhw ar hyn o bryd.

Roedd cynrychiolwyr yr enwad yn ymateb i ofnau y gallai Caergybi ac Aberdaugleddau gau, gyda’r orsaf yn Abertawe ar agor yn ystod oriau’r dydd yn unig.

“Byddai canoli’r gwasanaeth i warchod glannau Cymru yn Lloegr yn hollol anerbyniol,” meddai Edward Morus Jones, un o gynrychiolwyr Môn wrth gyfarfod blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

“Mae’n fygythiad i ddiogelwch pawb ar y mor a’i lannau – yn bobl lleol, ymwelwyr a physgotwyr.”