Cafodd mam i dri o blant o’r Rhondda a oedd yn hawlio budd-daliadau anabledd ei dal yn awyrblymio o awyren 12,000 o droedfeddi yn yr awyr.

Roedd Claire Jones, 38 oed o Donypandy wedi honni ei bod yn rhy wael i allu torri llysiau i wneud bwyd i’w theulu.

Ond fe wnaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau ymchwiliad cudd ar ôl cael i rywun di-enw roi gwybodaeth amdani.

Cafodd ei gweld yn dawnsio gyda’i phartner ac yn ennill arian yn gweithio mewn caffis. Roedd hefyd yn mynd yn gyson i’r gampfa a’r pwll nofio yn ei  chanolfan hamdden leol.

Fe fu’n rhaid iddi gyfaddef y gwir ar ôl i  DVD gael ei wneud ohoni’n awyrblymio 12,000 troedfedd i godi arian at elusen canser yn 2008.

Mae i’w gweld yn llusgo parasiwt trwm ar yr awyren – er iddi honni na allai gerdded heb faglau.

Cafodd ddedfryd o 12 wythnos o garchar gohiriedig gan ynadon Pontypridd ddoe. Fe fydd yn rhaid iddi hefyd ad-dalu dros £6,000 a gafodd heb hawl a gwneud 150 o wasanaeth cymunedol.