Mae cynghorwyr ym Mhowys wedi pleidleisio o blaid adolygiad o polisi ffermydd gwynt Llywodraeth Cymru.

Roedd tua 1,500 o ymgyrchwyr wedi mynd i’r cyfarfod yn Mart y Dre y Trallwng brynhawn yma.

Cafodd y cyfarfod ei symud o neuadd y sir i farchnad da byw newydd yn y dref er mwyn gwneud lle i’r tyrfa.

Pledleisiodd y cyngor yn unfrydol o blaid galw ar Lywodreath Cymru i ohirio pob cais i godi ffermydd gwynt yn y sir.

Mae’r protestwyr yn pryderu y bydd y melinau gwynt a’r peilonau fydd eu hangen i gario’r trydan dros y ffin yn hagru’r ardal ac yn arwain at lai o dwristiaid yn ymweld yno.

Ond yr wythnos diwethaf dywedodd Carwyn Jones fod ei lywodreath yn cael y bai am y ffermydd gwynt er nad eu penderfyniad nhw oedd hi.

Mae wedi galw ar Lywodreath San Steffan i ddatganoli’r grym dros brosiectau egni mawr, gan gynnwys ffermydd gwynr, i Gymru.

“Mae ‘na deimlad cryf am y peth yn lleol,” meddai Ifan Davies, contractwr amaethyddol o’r Trallwng.

“Dim ond pobl sy’n gwneud arian allan ohono sydd eisiau’r peth. Mae cwmnïau’n gwneud arian – ond ni’n sy’n talu amdano.”

“Rydan ni eisiau i’r Cyngor weld bod pobl yn ei erbyn ac eisiau adolygiad o’r polisi.”