Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth dyn yng Nghasnewydd wedi cyhuddo dyn 30 oed o’i lofruddio.

Dywedodd Heddlu Gwent fod Stanislaw Gliszczynski hefyd wedi ei gyhuddo o ymgais i lofruddio a llosgi bwriadol.

Fe fuodd Ramunas Raulinautis, 34, farw tri diwrnod ar ôl cael ei anafu ar 8 Mawrth.

Bydd Stanislaw Gliszczynski a dyn 27 oed o Gasnewydd sydd wedi ei gyhuddo o roi cymorth i droseddwr yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerffili yfory.