Mae’r heddlu yn apelio am lygaid-dystion yn dilyn damwain car ger Abergele.

Gwrthdarodd car Smart a  Renault Clio ar yr A547 ger Llansansior am 7.34pm ddydd Llun.

Dioddefodd y ferch oedd yn gyrru’r car Smart anafiadau difrifol i’w phen a’i choes ac mae’n derbyn triniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd  Bodelwyddan.

Dioddefodd pump o bobol oedd yn teithio yn y car arall anafiadau difrifol.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.