Cynllun y safle (gwefan EcoParc Môn)
Mae swyddogion amgylcheddol wedi dweud eu bod nhw wedi gosod y safonau uchaf posib ar gyfer gorsaf bŵer ar Ynys Môn fydd yn llosgi gweddillion anifeiliaid a bwyd.

Heddiw penderfynodd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ganiatáu trwydded i orsaf ‘treulio anaerobig‘ EcoParc Môn ar yr ynys.

Mae rheolwyr yr orsaf bŵer wedi gado y bydd yn cadw at safonau llym er mwyn diogelu cymunedau lleol a’r bywyd gwyllt lleol.

“Rydw i’n gallu cadarnhau ein bod ni wedi caniatáu trwydded amgylcheddol i EcoParc Môn gynnal yr orsaf,” meddai David Edwell, rheolwr gogledd Cymru Asiantaeth yr Amgylchedd.

“Mae asesiad trwyadl dros y misoedd diwethaf wedi dangos fod y cynlluniau yn eu lle er mwyn cynnal yr orsaf i’r safonau amgylcheddol uchaf.”

Daw’r penderfyniad terfynol yn dilyn cyhoeddiad yr asiantaeth ym mis Ebrill eu bod nhw’n “debygol” o roi caniatâd cynllunio i’r orsaf ddadleuol.

Fe fydd yr orsaf yn torri gwastraff a deunydd eraill i lawr er mwyn cynhyrchu gwrtaith a nwy fydd yn cael ei ddefnyddio i greu trydan.

“Gall gwastraff organig, megis hen fwyd neu isgynnyrch cig gael eu ‘treulio’ gan facteria mewn awyrgylch di-ocsigen,” meddai gwefan y prosiect.

“Mae’r bacteria anaerobig yn cynhyrchu bio-nwy llawn methan a all gael ei drawsnewid yn wres a thrydan. Gall y deunyddiau sydd yn weddill ar ddiwedd y broses gael eu defnyddio fel gwrtaith naturiol.”

Os yw’n cael ei adeiladu fe fydd yna gyfyngiadau llym ar allyriadau drwy gydol oes yr orsaf.

Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru eu bod nhw wedi ymgynghori â Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Cyngor Ynys Môn, y Lluoedd Awyr Prydeinig, a phobol leol cyn gwneud penderfyniad.

Mae Cyngor Ynys Môn eisoes wedi caniatáu i’r orsaf bŵer gael ei hadeiladu yn 2009.