Mae’r heddlu yn ymchwilio i ladrad o fan diogelwch yn archfarchnad Tesco y Trallwng neithiwr.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod lladron wedi targedu’r fan oedd yn cario arian parod tua 11.45pm ddoe.

Mae ditectifs yn chwilio am bedwar person yn dilyn yr ymosodiad ar gwmni diogelwch cerbydau G4S.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Dyfed-Powys ar 101.