Mae fandaliaid wedi tynnu rhai o fflagiau yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam i lawr.

Cyrhaeddodd disgyblion Ysgol Gynradd Wat’s Dyke a darganfod fod y fflagiau oedd yn addurno yr ysgol wedi eu rhwygo i lawr dros nos.

Dywedodd y prifathro Lynne Roberts eu bod nhw wedi hongian tua 40 metr o fflagiau o amgylch yr ysgol wrth baratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol fis nesaf.

“Roedd llawer iwn o’r fflagiau wedi eu rhwygo o’r cortyn,” meddai wrth bapur newydd y Daily Post. “Mae’n siomedig iawn i’r plant.

“Mae’n adlewyrchu y gymdeithas ydyn ni’n byw ynddi heddiw, ond rydyn ni wedi archebu rhagor.”

Yr Eisteddfod Genedlaethol sy’n darparu fflagiau ac maen nhw’n bwriadu gwobrwyo yr adeilad sydd wedi ei addurno orau.

Cynhelir yr Eisteddfod o 30 Gorffennaf – 6 Awst ar dir Fferm Bers Isaf, oddi ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam, wrth ymyl y Maes ei hun.

Gellir archebu tocynnau Maes C arlein – www.eisteddfod.org.uk – neu drwy ffonio’r Llinell Docynnau ar 0845 4090 800. Yn ogystal gellir prynu tocynnau ar gyfer Dal dy Dafod a’r Stomp gan Llenyddiaeth Cymru ar 029 2047 2266.