Mae’r heddlu wedi dweud eu bod nhw wedi cyhuddo dyn 64 oed o lofruddiaeth yn dilyn darganfyddiad corff yng nghymoedd y de.

Daethpwyd o hyd i gorff dyn lleol mewn adeilad yn Tan y Bryn, Rhymni, tua 6pm ddydd Sadwrn.

Credir mai corff Len Hill, 64 oed, ydyw, ond dyw’r archwiliad post-mortem heb gadarnhau hynny eto.

Cyhoeddodd Heddlu Gwent ddoe fod dyn o ardal Abertawe wedi ei arestio.

Mae o hefyd yn 64 oed ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerffili heddiw.