Mae cwmni peirianneg o Swydd Gaerloyw wedi prynu safle Bosch ym Mro Morgannwg, diwrnod cyn i’r gwaith yno ddod i ben.

Bydd cwmni Renishaw yn cymryd rheolaeth o’r ffatri ym Meisgyn ym mis Hydref ond nid yw’n amlwg eto pryd y bydd swyddi yn cael eu creu yno.

Bydd gwaith y cwmni o’r Almaen, Bosch, yn cael ei symud i Hwngari yfory.  Agorodd y ffatri yno yn 1991 ar ôl derbyn grant £21m gan Asiantaeth Datblygu Cymru, sydd bellach yn rhan o Lywodreath Cymru. Roedd tua 900 o weithwyr yno i ddechrau ond dim ond 489 sydd ar ôl.

Mae cwmni Reinshaw eisoes yn cyflogi 1,550 o staff mewn pum ffatri yn Swydd Gaerloyw.

Dywedodd y cwmni na fydden nhw’n symud gweithwyr i’r safle yn Miskin, ble y maen nhw’n bwriadu gwneud cynnyrch gofal iechyd.

“Mae’n rhy gynnar i wybod pa gynnyrch fydd yn cael eu creu yng Nghymru yn y pen draw, ond ni fydd swyddi sy’n cael eu creu yno yn effeithio ar swyddi yn Sir Gerloyw,” meddai’r prif weithredwr Syr David McMurtry.

Ychwanegodd ei fod yn gyfnod cyffrous i’r cwmni a bod eu twf cyflym nhw’n golygu ei fod yn angenrheidiol ehangu tu hwnt i’r ffatrïoedd oedd ganddyn nhw.