Y frech goch
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi galw ar rieni i sicrhau fod eu plant yn cael eu brechu yn erbyn y frech goch cyn gynted a bo modd.

Yn ôl swyddogion iechyd mae yna sawl achos o’r firws wedi bod yng Ngheredigion.

Maen nhw hefyd yn ymchwilio i achosion posib eraill yn Sir Benfro, Castell-nedd Port Talbot, Gwent, Abertawe, Caerfyrddin, Powys.

Mae 10 achos wedi bod yng Ngheredigion hyd yma a tua 20 mewn rhannau eraill o Gymru.

“Rydyn ni’n annog rhieni ledled Cymru sydd heb drefnu brechiadau ar gyfer eu plant i weithredu yn syth,” meddai llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r frech goch yn gallu achos cymhlethdodau, yn enwedig mewn plant dan bum mlwydd oed, ac yn gallu bod yn farwol.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y brechiad MMR yn fodd “saff ac effeithiol” o ddiogelu plant rhag effeithiau’r firws.