Mae dyn o Abertawe wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i gorff yng nghymoedd y de.

Daethpwyd o hyd i gorff dyn mewn adeilad yn Tan y Bryn, Cwm Rhymni, tua 6pm ddydd Sul.

Mae Heddlu Gwent yn arwain yr ymchwiliad. Maen nhw wedi rhoi gwybod i’r teulu er nad yw’r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol.