Yr Wyddfa
Daeth ci chwilio ac achub o hyd i dri cerddwyr oedd wedi mynd ar goll ar y Wyddfa.

Roedd y cerddwyr wedi ceisio dringo i fyny Llwybr Watkin ddydd Sadwrn, ond wedi mynd ar goll ar Liwedd.

Galwyd tîm achub mynydd Llanberis tua 4pm. Dechreuodd pum aelod o’r tîm chwilio’r mynydd ar y cyd â’u ci Cluanie.

Dywedodd arweinydd y tîm achub mynydd fod y ci a’i meistres Helen Gowe wedi dod o hyd i’r cerddwyr.

“Daeth Cluanie o hyd i’r criw ar ben ysgafell lethrog ac fe ddychwelodd hi at Helen a gweddill y tîm er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw,” meddai.

Ychwanegodd fod chwimder y ci yn golygu fod y cerddwyr wedi osgoi dioddef o hypothermia o ganlyniad i’r tywydd “aflan”.

Ychwanegodd fod y gwaith o achub y cerddwyr wedi cymryd mwy na phedair awr.

Achub dringwyr

Bu’n rhaid achub dau ddringwr â hofrennydd ar ôl iddyn nhw fynd ar goll ar yr Wyddfa brynhawn ddoe.

Roedd y ddau ddyn oedd yn ei 50au wedi ceisio dringo i fyny Clogwyn Du’r Arddu ond wedi colli eu ffordd.

Casglwyd y dynion o’r mynydd gan dîm Chwilio ac Achub RAF y Fali.