Mae merch bedair oed mewn cyflwr difrifol ar ôl gwrthdrawiad car yn Abertawe.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 7.45pm ddoe yn Trinity Street, Gorseinon, Abertawe.

Gwrthdarodd car Kia Picanton arian â’r ferch bedair oed sy’n byw yn lleol. Roedd yna ddau oedolyn yn y car ond ni chawsant eu hanafu.

Aethpwyd a’r plentyn i Ysbyty Treforys ac yna Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ble y mae hi mewn cyflwr difrifol.

Mae ei rhieni gyda hi.

Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad ffonio 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.