Mae’n cymryd amser hirach i werthu tŷ yng Nghymru nac mewn rhannau eraill o’r wlad, yn ôl arolwg a gyhoeddwyd heddiw.

Mae’r galw am dai mewn rhai ardaloedd, er enghraifft Llundain, yn parhau’n uchel, ac mae tai yn aros ar y farchnad am chwe wythnos ar gyfartaledd.

Ond yng Nghymru mai tai yn aros ar y farchnad am 14 wythnos ar gyfartaledd, yn ôl arolwg gan gwmni Hometrack.

Yn ôl yr arolwg mae prisiau tai wedi disgyn 3.9% dros y flwyddyn ddiwethaf ac fe fyddwn nhw’n disgyn ymhellach wrth i werthwyr ailystyried gwerth eu tai.

Cynyddodd nifer y tai a werthwyd 10.6% ym mis Mehefin – y lefel uchaf ers tri mis – yn bennaf oherwydd bod gwerthwyr yn fwy parod i dderbyn prisiau is.

Yn ôl cwmni Hometrack syrthiodd prisiau tai 0.1% ym mis Mehefin ac maen nhw bellach wedi syrthio yn ystod 11 o’r 12 mis diwethaf.

Bydd prisiau yn syrthio 1% arall yn ail hanner y flwyddyn wrth i ragor o dai ddod ar y farchnad, yn ôl yr arolwg.

“Mae disgwyl y bydd y galw yn parhau’n isel yn ail hanner y flwyddyn ac fe fydd hynny yn cadw prisiau yn isel,” meddai cyfarwyddwr ymchwil Hometrack, Richard Donnell.

Ychwanegodd fod y cynnydd mewn gwerthiant tai uchel ym mis Mehefin yn bennaf o ganlyniad i’r gwyliau banc ym mis Mai.