Teithiodd dros 100 o ymgyrchwyr heddwch i Epynt ddoe er mwyn tynnu sylw at y bobol sy’n cael eu lladd gan awyrenau di-beilot.

Dywedodd yr ymgyrchwyr fod miloedd o bobl yn cael eu lladd gan yr awyrennau dibeilot, sydd bellach yn cael eu hymarfer dros gannoedd o filltiroedd sgwar yng nghanolbarth Cymru.

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd  yr Awdurdod Hedfan Sifil eu bod yn clustnodi darn helaeth o dir o Fae Ceredigion hyd Fynyddoedd yr Epynt er mwyn hedfan yr awyrennau sy’n cael eu profi yn Aberporth.

Fe fydd yr awyrennau’n cael hedfan tros ran fawr o Ddyffryn Teifi, o Aberporth, ac wedyn ran o Fynyddoedd y Cambrian draw at Gymoedd Elan ac at feysydd tanio’r fyddin yn yr Epynt.

Mae Cymdeithas y Cymod wedi trefnu’r daith i Epynt ers blynyddoedd, ac eleni roedd yn digwydd yr un diwrnod â dathliadau’r lluoedd arfog.

Ar hen olion capel y Babell, dywedodd Llywydd Cymdeithas y Cymod, y Parch Guto Prys ap Gwynfor, ei bod hi’n bwysig cofio am y bobol sydd wedi gorfod wynebu colled, dioddefaint a marwolaeth gan y rhai sy’n ymgyrchu yn enw pobl Cymru.

Yna fe gerddodd y dorf o olion capel y Babell i’r pentref ffug sydd wedi cael ei adeiladu’n arbennig ar gyfer ymarfer milwrol.

Ar y cerrig beddi ffug, ysgrifennwyd enwau rhai o’r bobl sydd wedi cael eu lladd gan y bomiau.

Ymhlith yr ymgyrchwyr oedd Meredydd Evans, a chafodd baner arbennig gan Osi Rhys Osmond, yr artist o Lansteffan, ei dadorchuddio am y tro cyntaf.

Mae’r digwyddiad blynyddol wedi datblygu yn rhan bwysig o galendr blynyddol y mudiadau heddwch yng Nghymru.