Jim Parc Nest
Mae Archdderwydd Cymru wedi galw am gynnwys anthem genedlaethol a fflag genedlaethol Cymru yn y Gemau Olympaidd y flwyddyn nesaf.

Dywedodd T James Jones y dylai unrhyw Gymro neu Gymraes sy’n ennill medal yn y Gemau Olympaidd yn Llundain gael canu Hen Wlad fy Nhadau yn lle God Save the Queen.

Mynnodd y dylid hefyd godi fflag Cymru yn hytrach na Jac yr Undeb wrth iddyn nhw sefyll ar y podiwm.

Daeth ei sylwadau wrth iddo gymryd rhan yn seremoni gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2012 yn y Barri.

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei gynnal ym Mro Morgannwg ar 4–11 Awst y flwyddyn nesaf.

“Bydd Eisteddfod Bro Morgannwg yn cael ei gynnal ar yr un pryd a Gemau Olympaidd Llundain,” meddai’r Archdderwydd Jim Parc Nest.

“Rydw i’n galw ar sefydliadau Cymreig gan gynnwys yr Orsedd, Llywodraeth Cymru, yr eglwysi, Mercher y Wawr, Urdd Gobaith Cymru, y Ffermwyr Ifanc, y Prifysgolion, ac awdurdodau lleol ledled Cymru i annog Awdurdod y Gemau Olympaidd i godi fflag Cymru, nid Jac yr Undeb, uwchben medalwyr Cymru, ac i anrhydeddu medalwyr Cymru drwy chwarae Hen Wlad fy Nhadau.”

Dywedodd y dylai’r Alban, Llydaw, Cernyw, Gwlad y Basg, a Chatalonia i wneud yr un fath.

Sain Tathan

Ychwanegodd yr Archdderwydd ei fod yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn dilyn esiampl heddychlon Iolo Morgannwg, sylfaenydd yr Orsedd, a chefnu ar y cynllun i adeiladu academi filwrol yn Sain Tathan.

“Rydw i’n gobeithio y bydd y llywodraeth yn rhoi blaenoriaeth i werthoedd Iolo, gan gynnwys heddwch rhwng cenhedloedd y byd,” meddai.

“Er bod militariaeth wedi cael cymaint o sylw yn ystod agoriad swyddogol y Senedd ar ddechrau’r mis, rydw i’n gobeithio y bydd yn gartref i Lywodraeth sy’n pwysleisio’r angen am gyflogaeth waraidd sydd ddim yn dibynnu ar ymryson a rhyfel.

“Rydw i’n gobeithio na fydd Eisteddfod Bro Morgannwg yn cael ei gynnal dan fygythiad adeiladu academi filwrol anferth yn Sain Tathan.

“Oherwydd y dirwasgiad mae’r cynllun i weld wedi ei atal; ond rydw i’n gobeithio y bydd y Cynulliad yn annog Llywodraeth San Steffan i beidio adeiladu ysgol fomio arall yng Nghymru.”