Dim taith i Seland Newydd i William
Mae’n annhebygol y bydd y Tywysog William yn gallu teithio i Seland Newydd yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd er mwyn cefnogi Tîm Rygbi Cymru.

Cyhoeddodd is-noddwr Undeb Rygbi Cymru ei fod ef a’i wraig Kate yn bwriadu mynychu’r twrnamaint yn ystod ymweliad â’r brifddinas Wellington y llynedd.

Ond maen nhw bellach wedi canslo’r ymweliad rhag ofn eu bod nhw’n tarfu ar ymgyrch etholiadol Senedd y wlad.

Yn ôl papur newydd y New Zealand Herald roedd y gwrthbleidiau wedi cwyno y byddai’r ymweliad yn annheg ar drothwy’r Etholiad Cyffredinol ym mis Tachwedd.

Mae aelodau o’r Teulu Brenhinol yn tueddu i gadw draw o wledydd y Gymanwlad yn ystod etholiadau.

Mae Tywysog Cymru hefyd wedi canslo trip i Awstralia, gan deimlo na fyddai yn briodol ymweld â’r wlad honno heb groesi’r Tasman i Seland Newydd hefyd.

Dywedodd Llywydd Undeb Rygbi Cymru y byddai yn “siomedig” os na fyddai’r pâr priod yn ymweld â Seland Newydd yn ystod ymgyrch Tîm Rygbi Cymru.

“Fe fyddwn ni wrth ein boddau, mae wedi bod yn gefnogwr brwd i rygbi Cymru,” meddai Dennis Gethin.