Wacky Wales
Mae tywyslyfr newydd tafod yn y boch yn cynnig barn di flewyn ar dafod am rai o atyniadau twristiaid mwyaf Cymru.

Yn ôl y llyfr Wacky Wales gan yr awdur Colin Palfrey, sy’n byw yng Nghaerdydd, mae “clybiau nos Abertawe yn llawn o ferched sy’n gwisgo bron i ddim byd” a’r dynion yn “neanderthaliaid sy’n chwilio am ferched i’w llusgo yn ôl i’w hogofau”.

Mae hefyd yn ymosod ar Gwmbrân gan ddweud nad oes yna “unrhyw beth i’ch cadw chi yno”.

“Mae’r gwynt yn chwythu i lawr coridorau’r canolfannau siopau gan ddweud – ‘Rydych chi wedi bod yma yn ddigon hir, ewch adref’.”

Yn ôl y llyfr mae’r Celtic Manor ger Casnewydd yn “ymdebygu i bencadlys yr M15 yn Llundain”.

Dywedodd Lefi Gruffudd o’r Lolfa fod “rywfaint o wirionedd yn sylwadau Colin”.

“Does neb yn credu beth y maen nhw’n ei ddarllen mewn pamffledau twristiaid beth bynnag. Mae nifer wedi cael llond bol ar yr atyniadau swyddogol ac yn chwilio am rywbeth gwahanol.”

Dywedodd yr awdur Colin Palfrey ei fod “yn caru Cymru ac felly mae gen i’r hawl i ladd ar rai o’r llefydd llai deniadol, y digwyddiadau cenedlaethol a’r traddodiadau”.

“Rydyn ni’n ddigon hyderus fel gwlad i chwerthin ar ein pennau ein hunain.”