Mae dyn 68 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad car ar Ynys Môn ar ôl damwain ben bore.
Aethpwyd a’r dyn i Ysbyty Gwynedd Bangor ond fe fu farw yn ddiweddarach.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi eu galw am 6.25am y bore yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad oedd yn cynnwys Ford Focus glas tywyll ar yr A4080 ger Llanfaelog.
Maen nhw wedi gofyn i unrhyw un a welodd beth ddigwyddodd i gysylltu â nhw.