Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn 22 oed ar ôl gwrthdrawiad ar Stryd Pontarddulais, Fforest Fach yn Abertawe.

Roedd pedwar car yn rhan o’r gwrthdrawiad a glaniodd un ohonyn nhw ar ben un o’r lleill.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaethau brys eu bod nhw wedi eu galw am 14.16pm ac nad oedd unrhyw un wedi dioddef anafiadau difrifol.

Mae’r heddlu yn parhau i ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd.

Gelli Gandryll

Mewn damwain arall cafodd wyth o bobol eu cludo i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad car yn y Gelli Gandryll, neithiwr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 5.47pm ar ôl i ddau gar wrthdaro ar y B4350.

Aethpwyd a pob un o deithwyr y ceir i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr ac un o hofrenyddion yr RAF. Roedd pedwar ohonyn nhw yn blant.