Mae dros fil o bobl wedi llofnodi deiseb o blaid Cofnod llawn ddwyieithog o’r trafodaethau yn y Cynulliad, yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Lansiwyd y ddeiseb gan y mudiad yr wythnos ddiwethaf. Y gobaith yw gwrthdroi’r penderfyniad a wnaed bron ddwy flynedd yn ôl i gyfieithu popeth Cymraeg i’r Saesneg, ond nid fel arall.

Fe dorrodd y stori ar wefan Golwg 360 yn ystod yr Eisteddfod 2009 ac roedd gwleidyddion o bob plaid wedi beirniadu’r penderfyniad.

Mae Bwrdd yr Iaith bellach wedi ymyrryd yn y ddadl, gan gyhuddo’r Cynulliad o dorri ei gynllun iaith ei hun trwy fethu â chynnig cofnodion cwbl ddwyieithog o’r trafodaethau yn siambr y Senedd.

‘Balch’

“Rydym yn hynod o falch bod cymaint o bobl wedi llofnodi’r ddeiseb mewn cyfnod mor fyr,” meddai Catrin Dafydd, llefarydd grŵp hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
“Mae’n braf gweld pobl o bob cwr o’r wlad yn cefnogi’r ymgyrch ac mae’n arwydd clir o ddyhead pobl Cymru i weld ein gwleidyddion yn gwyrdroi’r penderfyniad.

“Ein gobaith nawr yw y bydd y gwleidyddion yn gwrando ar y bobl sy’n galw am weld y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal yn ein corff democrataidd.

“Mae’n rhyfedd meddwl fod gwleidyddion sydd wedi sicrhau statws swyddogol i’r Gymraeg yn fodlon derbyn nad oes ganddi’r un statws yn eu siambr eu hunain.

“Eisoes rydym wedi anfon gohebiaeth at y Comisiwn yn holi sut y mae modd cysoni’r ddau beth.”