Leighton Andrews
Mae bron i un ym mhob pump o ddisgyblion Cymru ar ei hol hi erbyn iddyn nhw gyrraedd yr Ysgol Uwchradd, yn ôl ffigyrau newydd.

Cafodd y ffigyrau eu cyhoeddi gan y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, ar ôl cais gan lefarydd yr wrthblaid ar addysg, Angela Burns.

Maen nhw’n dangos nad ydi canran uchel o ddisgyblion 11 oed Cymru yn llwyddo i gyrraedd Lefel 4 neu uwch mewn nifer o bynciau allweddol.

Yn ôl y ffigyrau roedd 30% o blant Blaenau Gwent heb gyrraedd y safon mewn Cymraeg, a 28% o ddisgyblion Merthyr Tudful wedi methu a chyrraedd y safon yn y Saesneg.

Ar draws Cymru roedd 18% o ddisgyblion y wlad ar ei hol mewn Saesneg, a 17% ar ei hol hi mewn Mathemateg y llynedd.

Dywedodd Angela Burns fod y ffigyrau yn profi nad yw system addysg Cymru yn ddigon da a bod miloedd o ddisgyblion yn dioddef o’i herwydd.

“Mae’n warthus nad yw safon addysg wedi gwella mewn ardaloedd difreintiedig er gwaethaf rhagor na degawd o fuddsoddiad gan gynlluniau i leddfu tlodi,” meddai.

“Y ffordd gorau o wella ffyniant mewn ardaloedd tlawd yw drwy addysg ond mae’n amlwg ein bod ni wedi methu cyfle euraidd i helpu cenhedlaeth o bobol i ddianc o dlodi.

“Mewn sawl rhan o Gymru dyw pobol 11 oed ddim yn cyrraedd eu potensial llawn, allai eu dal nhw yn ôl yn hwyrach ymlaen.

“Mae’n anodd iawn i berson ifanc sydd eisoes ar ei hol hi wrth gyrraedd yr ysgol uwchradd ddal i fyny.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad fod y gweinidog addysg eisoes wedi dweud fod angen codi safonau yng Nghymru ac yn bwrw ymlaen â newidiadau er mwyn sicrhau fod hynny’n digwydd.