Y ferlen
Mae gwraig dyn gafodd ei garcharu am droseddau yn erbyn lles anifeiliaid wedi osgoi’r un ffawd er iddi barhau i dorri gwaharddiad oes ar gadw anifeiliaid.

Doedd Doreen Buckley, 46, o Bontypridd, ddim yn bresennol yr wythnos diwethaf wrth i farnwr garcharu ei gŵr Eric, 56, am 12 wythnos.

Methodd Doreen Buckley a chyrraedd Llys Ynadon Pontypridd gan ddweud ei bod hi wedi dioddef o drawiad ar y galon ar y fordd yno.

Penderfynodd y barnwr, Jill Watkins, ymestyn ei chyfnod ar fechnïaeth am wythnos ychwanegol ond gofynnodd am brawf fod ganddi broblemau iechyd go iawn.

Pan gyrhaeddodd y llys o’r diwedd ddoe dedfrydwyd Doreen Buckley i 12 wythnos yn y carchar ond penderfynodd y barnwr oedi’r ddedfryd am 12 mis.

Cytunodd Doreen Buckley i drosglwyddo ei hanifeiliaid i ofal yr RSPCA er mwyn sicrhau na fydd unrhyw anifeiliaid yn byw yn ei chartref yn y dyfodol.

Yn ogystal â hynny gosodwyd gwaharddiad llym arni sy’n golygu y bydd hi’n yn torri’r gyfraith hyd yn oed drwy fyw dan yr un to â rhywun sy’n cadw anifeiliaid.

Wrth iddi adael y llys dywedodd llefarydd ar ran yr RSPCA fod Doreen Buckley wedi cael “dihangfa lwcus”.

“Pe bai Mrs Buckley yn iach rydw i’n credu y byddai’r barnwr wedi ei hanfon hi i’r carchar,” meddai Nicola Johnson, arweiniodd yr ymchwiliad ar ran yr RSPCA.

“Roedd yn ddihangfa lwcus a’r gobaith yw ei bod hi wedi dysgu ei gwers.”

Y cefndir

Cafodd Eric a Doreen Buckley eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid gan ynadon yn Kingston upon Thames ble’r oedden nhw’n byw yn 1995.

Ond y llynedd cafodd y ddau eu dal yn cadw 24 anifail, gan gynnwys gwyddion, geifr a merlod, mewn islawr aflan dan dafarn.

Roedd yr heddlu a’r RSPCA wedi dwyn cyrch yn erbyn eu cartref yng Nghwm Rhondda ym mis Mehefin y llynedd.

Serch hynny clywodd y llys bod y ddau yn parhau i gadw rhai anifeiliaid yn eu cartref.

Ddydd Sadwrn methodd un o ymchwilwyr yr RSPCA gael mynediad i’r tŷ ble y maen nhw bellach yn cadw pedwar ci, ambell i bysgodyn a dwy ffured.