Ieuan Wyn Jones
Mae arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi dechrau’r ymgynghoriad i beth aeth o’i le yn ystod Etholiadau’r Cynulliad.

Fe fydd y blaid yn dechrau’r broses o ystyried ei ddyfodol dros yr wythnosau diwethaf – ar ôl perfformiad “siomedig” yn yr etholiad fis diwethaf.

Collodd Plaid Cymru bedair sedd a mynd ar ei hol hi i’r Ceidwadwyr sydd bellach yn brif wrthblaid y Cynulliad.

Bydd Eurfyl ap Gwilym yn arwain yr ymgynghoriad, ar ôl cael ei ddewis yn ystod y penwythnos diwethaf gan gyngor cenedlaethol y blaid.

Dywedodd Ieuan Wyn Jones y bydd ymgynghoriad Adfywio’r Blaid yn ystyried pob agwedd o’r blaid – “gan gynnwys gwella’r strwythurau, negeseuon, gallu ymgyrchu ac yn y pen draw, ein perfformiad mewn etholiadau”.

“Ein nod fydd gweld y Blaid nid yn unig yn cystadlu am yr ail le yng Nghymru, ond mewn sefyllfa i arwain Cymru,” meddai.

“Bydd y dadansoddiad yn edrych i weld sut y byddwn yn datblygu’r blaid yn y blynyddoedd i ddod, yn hytrach na chynnal post-mortem ar y gorffennol – does gennym ni ddim diddordeb mewn syllu ar ein bogeiliau ein hunain. I’r perwyl hwn, byddwn yn gofyn am farn aelodau, cefnogwyr a’r sawl nad ydynt yn gefnogwyr, yn ogystal ag arbenigwyr o wahanol gefndiroedd.”

Dywedodd fod ffigyrau allweddol yn y blaid, gan gynnwys Elin Jones ac Adam Price, eisoes wedi cyflwyno erthyglau i’n gwefan a fydd yn sail i drafodaeth ehangach.

“Byddwn yn defnyddio amrywiaeth eang o fforymau i wneud yn siŵr fod cynifer ag sydd modd o bobl yn gallu cyfrannu at y broses,” meddai.

“Bydd ein gwefan, rhwydweithiau cymdeithasol, yn ogystal â chyfarfodydd ‘neuadd tref’ o gwmpas Cymru yn cael eu defnyddio i gasglu tystiolaeth.

“Tra bod y broses hon yn digwydd, fydd Plaid Cymru, wrth gwrs, yn dal i chwarae rhan hanfodol i sicrhau fod gan bobl Cymru wrthblaid effeithiol ac adeiladol i’w cynrychioli.”

Camu o’r neilltu

Wythnos ar ôl Etholiadau’r Cynulliad ar 6 Mai, cyhoeddodd Ieuan Wyn Jones, Aelod Cynulliad Ynys Môn, na fyddai yn arwain y blaid i’r etholiad nesaf.

Mae disgwyl iddo gamu o’r neilltu tua hanner ffordd drwy dymor pum mlynedd y Cynulliad.

Dywedodd fod perfformiad ei blaid yn “siomedig” a’i fod yn cymryd ei siâr o’r cyfrifoldeb am hynny.

Hyd yn hyn dim ond un Aelod Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, sydd wedi mynegi diddordeb i’w olynu.

Mae rhaid ymgeiswyr posib arall, gan gynnwys Elin Jones a Simon Thomas, wedi dweud ei fod yn rhy gynnar i ystyried a ydyn nhw’n bwriadu sefyll eto.