Mae nofel newydd Dewi Prysor ar restr fer Llyfr y Flwyddyn
Mae awdur blaenllaw wedi lambastio’r Cambrian News ar ôl iddyn nhw ddyfynnu darnau o sgwrs yr oedd wedi’i chael ar wefan ryngweithio Twitter – heb ei ganiatâd.

Ond mae’r papur newydd wythnosol yn dadlau’n gryf bod ganddyn nhw berffaith hawl i gyhoeddi twîts Dewi Prysor.

Yr wythynos hon roedd Dewi Prysor yn cyfeirio at raglen drafod Jason’s Phone-in Radio Wales ar ei gyfrif Twitter. Roedd y rhaglen radio yn ymdrin â digwyddiad diweddar pan gafodd barberson ei arestio ar amheuaeth o fygwth cwsmeriaid tafarn y Royal Oak ym Mhenrhydneudraeth gyda dryll, a hynny am iddyn nhw siarad Cymraeg yn ôl trigolion lleol.

Ddoe roedd y Cambrian News yn dyfynnu sylwadau Twitter Dewi Prysor ar y mater.

Mae’r awdur yn mynnu mai achlust oedd ei sylwadau sgwrs ar Twitter ac nad oedd wedi disgwyl cael ei ddyfynu, am nad oedd yn dyst i’r digwyddiad.

“Rhannu beth oeddwn i wedi’i glywed oeddwn i,” meddai Dewi Prysor wrth Golwg360.

“A dydw i ddim yn teimlo’u bod nhw wedi adlewyrchu hynny yn yr erthygl. Mae fy natganiadau i yn edrych yn ffeithiol…Mae Dewi Lewis (cynghorydd lleol) wedi cael cyfle i ddweud ‘Fy nealltwriaeth i o’r achos yw…’ yn y darn,” meddai.

‘Newyddiaduraeth ddiog’

 “Newyddiaduraeth ddiog ydi o,” meddai Dewi Prysor wrth Golwg360.

“Maen nhw wedi defnyddio dyfyniadau o sgwrs Twitter rhywun sy’n ddim byd i wneud â’r pentref. Nid datganiadau oedden nhw – ond sgwrs,” ychwanegodd cyn dweud ei fod wedi ysgrifennu e-bost at olygydd y papur yn cwyno am y mater.

“Dydw i ddim byd i wneud â’r peth. Mae o’n anfoesol, di-egwyddor ac yn newyddiaduraeth ddiog – heb boeni beth fydd canlyniadau hynny. Mae’n anghyfrifol hefyd.”

Roedd Dewi Prysor wedi dod i wybod bod y Cambrian News wedi dyfynnu darnau o’r sgwrs ar twitter ar ôl darllen y papur ddoe.

 “Dydw i ddim yn disgwyl cael fy nyfynnu’n sgwrsio am ddatblygiadau achos penodol. Doeddwn i ddim byd i wneud â’r peth. Dw i’n byw 10 milltir i ffwrdd – ddim yn yr un pentref… pam defnyddio fy enw i? Fe ddylen nhw fod wedi gofyn am ganiatâd.”

Ymateb y Cambrian News

Mae Golygydd Reolwr y Cambrian News wedi amddiffyn y penderfyniad i gyhoeddi twîts Dewi Prysor ar ffrae’r Royal Oak, er nad oedd yr awdur yn dyst i’r digwyddiad.

“Roedd yr erthygl yn y Cambrian News yr wythnos hon am reolwr tafarn yn cael ei arestio yn dilyn ffrae honedig ynghylch y defnydd o’r Gymraeg i archebu diodydd yn stori newyddion werth chweil – yn wahanol i’r stori hon yn Golwg360 am Dewi Prysor yn cwyno amdanom ni’n cyhoeddi ei dwîts,” meddai Bev Thomas.

“Fe wnaethon ni’r peth yn glir fod sylwadau Dewi Prysor wedi’u gwneud ar Twitter,” meddai cyn son eu bod wedi “ceisio cysylltu gyda Dewi Prysor drwy ei ffonio”.

“Mae ganddo dros 1,250 o ddilynwyr ar Twitter ac mae ei dwîts yno i’r byd eu gweld.  Rydan ni’n credu bod gennym yr hawl i’w cyhoeddi ac yn dadlau’n gryf yn erbyn bod cyfreithiau hawlfraint yn eu gwarchod.”