Mae tad o Ferthyr Tudful wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at fynd a’i wraig ar fis mêl ar ôl ennill £1 miliwn ar y loteri.

Fe enillodd Mark Benbow yr arian ar ôl iddo drio Raffl yr Euro Millions ar y seithfed o Fehefin – ychydig ddyddiau cyn ei ail ben-blwydd priodas gyda’i wraig Lisa.

“Roedden ni wedi methu mynd ar fis mêl ar ôl priodi oherwydd nad oedden ni’n gallu’i fforddio. Mae’r arian hwn yn golygu gallwn ni fynd ar fis mêl o’r diwedd,” meddai’r gweithiwr  cynnal a chadw rheilffyrdd. 

“Bydden ni wrth ein boddau yn mynd i Rufain,” ychwanegodd cyn son ei fod yn bwriadu dathlu’r ffaith ei fod wedi ennill gyda’i ffrindiau yng Nghlwb Bowls Dowlais nos yfory.

Fe ddywedodd na fyddai’n rhoi’r gorau i’w waith yn cynnal a chadw rheilffyrdd. Doedd o ddim ychwaith yn credu bod ennill gymaint o arian yn mynd i’w newid fel person.

“Dw i’n 38 blwydd oed, alla i ddim mynd yn wyllt gyda’r arian oherwydd ni fyddai’n para,”  meddai’r dyn sy’n mwynhau chwarae darts yn ei amser rhydd.

£105 miliwn yw jacpot EuroMillions nos yfory.