Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 Roedd y rhan fwyaf o’r bobl wnaeth bleidleisio ‘Ie’ yn y refferendwm fis Mawrth, eisiau gweld y Cynulliad Cenedlaethol yn cael  mwy o rym a hyd’noed yn cefnogi annibyniaeth i Gymru.

Mi bleidleisiodd 63.5% o blaid rhoi’r hawl i’r Cynulliad greu deddfau heb orfod gofyn caniatâd Llywodraeth Prydain, yn y refferendwm ar y trydydd o Fawrth.

Ac yn ôl gwaith ymchwil yr Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd a’r Athro Roger Scully o Brifysgol Aberystwyth, mae mwyafrif sylweddol yn cefnogi datganoli’r hawl i godi trethi a rheolaeth o’r drefn gyfiawnder troseddol i Fae Caerdydd.

Dim ymgyrch ‘Na’

Yn ôl ymchwil yr academwyr, roedd 61% o’r bobol gafodd eu holi wedi dweud bod yr ymgyrch yn erbyn mwy o rym i’r Cynulliad yn ‘hollol anweledig’.

Roedd 32% yn cytuno gyda’r gosodiad: ‘Roedd sylw’r cyfryngau a’r Wasg i ymgyrch y refferendwm yn ei gwneud yn anodd i mi ddeall beth oedd pwynt y refferendwm’.

Bydd yr ymchwil a’r dadansoddi, oedd yn cael eu trafod mewn seminar brecwast yn Aberystwyth y bore yma, i’w gweld yn gyflawn yn Wales Says Yes: the 2011 Welsh Referendum gan Richard Wyn Jones a Roger Scully.