Fe fydd Llywodraeth Cymru’n cydweithio i wneud y gorau o ddatblygu atomfa newydd yn Wylfa, yn ôl datganiad gan y Prif Weinidog.

Ac mae eisiau gwneud yn siŵr bod pobol leol yn cael swyddi yn ystod y broses adeiladu ac wedyn.

Er eu bod wedi dweud yn y gorffennol nad oedd angen ynni niwclear newydd ar Gymru, mae Carwyn Jones yn dweud bod angen gwneud yn siŵr bod cyfraniad Wylfa at economi Ynys Môn yn parhau.

Nifer sylweddol o swyddi

“Mae Wylfa wedi darparu a chynnal nifer sylweddol o swyddi gyda sgiliau uchel a chyflogau day n y rhanbarth ers mwy na 40 mlynedd ac mae’n allweddol i economi Môn,” meddai.

“Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r rhai sy’n ymwneud  â’r gwaith i wneud yn siŵr, trwy hyfforddiant a chyfleoedd i werthu nwyddau ac o ran swyddi, bod y gymuned leol yn elwa i’r eitha’ o adeiladu a gweithredu’r atomfa.”

Mae mudiadau lleol a chenedlaethol – fel PAWB a Chyfeillion y Ddaear Cymru – wedi gwrthwynebu’r penderfyniad i ganiatáu atomfa newydd ym Môn, gyda Wylfa yn un o wyth safle cymeradwy trwy weldydd Prydain.

‘Peryglus’

Maen nhw’n dadlau bod ynni niwclear yn beryglus, bod problemau o hyd gyda chael gwared ar wastraff atomig, bod atomfeydd yn dargedi ar gyfer terfysgwyr a bod y diwydiant yn cynnal y broses o greu arfau niwclear hefyd.

Mae un arall o’r wyth safle o fewn cyrraedd i Gymru – yn Hinckley Point ar ochr arall aber afon Hafren.