Carl Sargeant
Mae’r gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, wedi beirniadu “cynghorau hunanfodlon” am nad ydyn nhw’n rhannu eu swyddogion uwch.

Mae Aelod Cynulliad Alun a Glannau Dyfrdwy wedi bygwth eu gorfodi nhw i gyd-weithio os nad ydyn nhw’n gwneud hynny eu hunain.

Mae arweiniwyd awdurdodau lleol yng Nghymru wedi mynnu eu bod nhw’n cydweithio yn effeithiol wrth geisio amddiffyn gwasanaethau rheng flaen rhag toriadau.

Ond dywedodd Carl Sargeant fod angen herio “biwrocratiaeth ddi-glem, tangyflawni a hunanfodlonrwydd” y cynghorau.

Wrth siarad yng nghynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn Abertawe dywedodd ei fod yn disgwyl gweld rhagor o gydweithio.

“Rydyn ni’n colli cyfleoedd i arbed arian, ond yn bwysicach na hynny, i recriwtio’r bobol orau o y tu mewn i Gymru a’r tu allan a fyddai o fudd i ni,” meddai.

“Rydw i’n disgwyl llawer iawn o gynnydd yn hyn o byth. Os nad ydw i’n ei weld, bydd rhaid i fi eich gorfodi chi i weithio’n gyflymach.”

Yn ôl sïon yn y gynhadledd mae Carl Sargeant yn ystyried llunio deddfwriaeth fyddai yn gorfodi cynghorau i gydweithio â’i gilydd.

Dywedodd y byddai cydweithio yn fodd i’r cynghorau brynu rhagor am lai o arian a thorri gwasanaethau oedd yn cael eu dyblygu ym mhob awdurdod lleol.

‘Angen bod yn eglur’

Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Steve Thomas, fod angen i’r gweinidog ei wneud yn ragor eglur beth yn union yr oedd yn ei ddisgwyl gan gynghorau.

“Os yw’r gweinidog yn bwriadu ail-drefnu awdurdodau lleol fe ddylai ddatgan hynny yn glir,” meddai.

“Y broblem yw ei fod yn beth costus iawn i’w wneud, mae gennym ni etholiadau’r flwyddyn nesaf, a does neb wedi gofyn barn y cyhoedd eto.