Aled Roberts
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi penderfynu peidio cyhuddo dau Aelod Cynulliad sydd wedi eu diarddel o’r  Senedd o  dorri’r gyfraith.

Cafodd yr ACau Aled Roberts a John Dixon eu gwahardd o’u seddi am eu bod nhw wedi parhau’n aelodau o gyrff cyhoeddus ar ôl sefyll ar gyfer etholiadau’r Cynulliad.

Roedd Aled Roberts o restr Gogledd Cymru yn aelod o Gomisiwn Prisiau Cymru a John Dixon o ranbarth Canol De Cymru yn aelod o Gyngor Gofal Cymru.

Roedd Heddlu De Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i’r cyhuddiadau.

Heddiw cyhoeddodd y Democratiaid Rhyddfrydol na fyddai yna unrhyw gyhuddiadau yn eu herbyn, ond fod ymchwiliad y Cynulliad yn parhau.

“Yn achos y ddau Aelod Cynulliad gafodd eu gwahardd o’r Senedd, John Dixon ac Aled Roberts, rydyn ni’n gallu cadarnhau fod yr heddlu wedi cwbwlhau eu hymchwiliad a bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi dweud na fyddwn nhw’n cyhuddo John nac Aled,” meddai’r llefarydd.

“Er bod ymchwiliad yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi dod i ben mae’r Cynulliad yn parhau i ymchwilio.

“Fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau i gydweithio â phawb er mwyn sicrhau fod y mater yn cael ei ddatrys.”