Mae Golwg360 yn falch iawn i fod yn cydweithio â Llenyddiaeth Cymru i gynnal pleidlais ‘Barn y Bobl’ Llyfr y Flwyddyn unwaith eto eleni.

Os nad ydych wedi bwrw’ch pleidlais eto, yna mae modd i chi wneud hynny yma yn adran Gelfyddydau Golwg360.

Rydym yn falch iawn hefyd i allu cynnig pâr o docynnau i noson y Seremoni, yn Cineworld, Caerdydd fel gwobr i gystadleuaeth.

Mae’r seremoni yn cael ei chynnal eleni ar nos Iau 7 Gorffennaf.

I ennill y wobr arbennig yma, atebwch y cwestiwn canlynol:

Pa awdur oedd enillydd Gwobr Barn y Bobl Golwg360 yn 2010?

Anfonwch eich ateb at cystadleuaeth@golwg.com ynghyd â’ch enw a rhif ffôn erbyn dydd Iau, 30 Mehefin.