Senedd Cymru - Democratiaeth ddiffygiol?
Mae un o’r arbenigwyr pennaf ar y gyfraith yng Nghymru wedi galw am sefydlu system gyfreithiol annibynnol i‘r wlad, gan rybuddio y bydd y broses o ddatganoli yn “ddiffygiol” fel arall.

Yn ôl yr Athro R Gwynedd Parry, os nad oes gan Gymru Uchel Lys, Llys Apêl ac Arglwydd Brif Ustus ei hun, fe fydd diffyg mawr yn fframwaith deddfwriaethol y wlad.

Dywedodd yr Athro, sy’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn gyfarwyddwr newydd Sefydliad Hywel Dda, y byddai Cymru “ar ei hôl hi” heb ei fframwaith cyfreithiol ei hun.

Ychwanegodd fod system gyfreithiol ar wahân gan yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Ynys Manaw yn barod.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd y Cwnsel Cyffredinol newydd yn astudio’r mater dros y misoedd nesaf.

‘Tanseilio datganoli’

Mewn araith yn ystod lansiad Sefydliad Hywel Dda, dywedodd yr athro fod y “refferendwm ym mis Mawrth, pan alwodd pobol Cymru am fwy o rymoedd deddfu, yn gam arwyddocaol”.

Ond heb fframwaith cyfreithiol annibynnol gallai llysoedd Lloegr danseilio deddfau’r Cynulliad, meddai.

“Ar hyn o bryd, gallai cyfreithiau sy’n cael eu creu yng Nghymru gael eu datgan yn anghyfreithlon gan uchel lysoedd yn Lloegr.

“Dydyn ni ddim eisiau gweld llysoedd Llundain yn craffu ar gyfreithiau Cymru. Byddai hynny’n tanseilio holl bwrpas datganoli.”

Lansio Sefydliad Hywel Dda

Mae’r sefydliad wedi ei enwi ar ôl y Brenin Cymreig o’r 10fed ganrif sydd fwyaf enwog am gyflwyno ei system gyfreithiol ei hun i Gymru.

Yn ôl Dr Gwynedd Parry “datganiad o fwriad Sefydliad Hywel Dda yw  cyfrannu at a chynnal datblygiad Cyfraith Cymru drwy ymchwil.

“Mae Cymru yn cymryd ei chamau cyntaf yn ddemocratiaeth, ac mae’n gyfnod addas i holi pam na ddylwn ni gael ein fframwaith cyfreithiol lawn ein hunain.

“Roedd y syniad o gyfreithiau Cymreig, yn cael eu gweithredu gan system gyfreithiol Gymreig, annibynnol, yn bodoli cyn goresgyniad y Normaniaid.

“Mae’n ymddangos ein bod ni nawr yn ail-ddarganfod ein treftadaeth gyfreithiol segur ni, ac yn gweld a fydd yn ateb gofynion yr 21ain ganrif.”