Swyddfa S4C
Mae S4C wedi dechrau hysbysebu am Brif Weithredwr newydd i’r sianel.

Bydd yr hysbyseb yn ymddangos yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos nesaf.

Mae S4C yn addo cyflog sy’n “gymesur â swyddogaeth a phrofiad yr ymgeisydd llwyddiannus”.

“Mae Awdurdod S4C yn chwilio am Brif Weithredwr i arwain y sianel drwy heriau a chyfloedd y dyfodol,” meddai’r hysbyseb.

Y dyddiad cau yw 5pm ddydd Llun, 18 Gorffennaf.

Cwmni rhyngwladol Odgers Berndston, sydd â swyddfa yng Nghaerdydd, sy’n cyflawni’r dasg o chwilio am olynydd i Iona Jones.

Mae’r sianel wedi bod heb Brif Weithredwr parhaol ers iddi gael ei diswyddo fis Awst y llynedd.

Mae Arwel Ellis Owen wedi bod yn Brif Weithredwr dros dro yn y cyfamser.

Cafodd y broses o benodi olynydd ei oedi gan benderfyniad Cadeirydd Awdyrdod S4C, John Walter Jones, i ymddiswyddo cyn y Nadolig.

Penodwyd olynydd iddo ef, Huw Jones, ddiwedd mis Mai, ar ôl oedi fel nad oedd y broses o benodi yn ymyrryd ag Etholiadau’r Cynulliad.