Dyfrig Jones
Mae cynghorydd ac aelod o Awdurdod S4C wedi gwadu honiad fod ganddo luniau ‘eithriadol o annerbyniol’ ar ei dudalen Facebook.

Yn ôl cylchgrawn Golwg, mae cwyn swyddogol wedi’i gwneud yn erbyn y Cynghorydd Dyfrig Jones o Wynedd ar ôl i nifer o bobol, gan gynnwys un o’r gohebwyr, ddod ar draws y lluniau.

  • Roedd un yn dangos babi gyda chan cwrw yn ei law, sigarét heb ei chynnau yn ei geg a llaw oedolyn yn cynnig tân.
  • Roedd un arall yn dangos plentyn ychydig yn hŷn a’r hyn sy’n edrych fel bag plastig dros ei ben.

Mae Dyfrig Jones yn cynrychioli Plaid Cymru yn Gerlan, Bethesda, yn aelod o Awdurdod S4C ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor.

Bellach, mae cynghorydd arall, Simon Glyn o garfan Llais Gwynedd, wedi gwneud cwyn swyddogol wrth y cyngor, yr adran wasanaethau cymdeithasol a’r heddlu.

Ac yntau’n rheolwr ar gartref plant, roedd yn honni bod y lluniau’n “eithriadol o annerbyniol” a bod aelod o’i deulu wedi dychryn wrth eu gweld.

Ond mae Dyfrig Jones wedi ateb yn gryf. Mewn datganiad i’r cylchgrawn fe ddywedodd hyn:

“Mae’r awgrym fod deunydd sydd yn ‘eithriadol o annerbyniol’ wedi’i osod ar fy nhudalen Facebook yn gwbl anghywir. Rwy’n gwrthod unrhyw honiad fy mod wedi ymddwyn mewn modd amhriodol, ac yn gwbl hyderus y bydd unrhyw ymchwiliad yn dod i’r un casgliad.”

Mae’r stori’n llawn yn rhifyn yr wythnos yma o Golwg.