Rosemary Butler
Mae Llywydd y Senedd wedi dweud ei bod hi’n hyderus y bydd pwyllgorau newydd y Cynulliad yn haws i bobol eu ddeall ac yn archwilio’n fwy effeithiol.

Cafodd y 10 grŵp eu cymeradwyo’n swyddogol yn y Siambr heddiw. Bydd eu hanner nhw yn ystyried deddfwriaeth yn ogystal â pholisïau.

Mae’r Blaid Lafur yn cadeirio pedwar pwyllgor, y Ceidwadwyr tri, Plaid dau a’r Democratiaid Rhyddfrydol un.

Cyhoeddwyd trefn y pwyllgorau dros chwe wythnos ar ôl Etholiadau’r Cynulliad, ddechrau mis Mai.

“Mae’r system pwyllgorau newydd yn sicrhau y bydd gwybodaeth aelodau unigol am wahanol bynciau yn cael ei ddefnyddio er mwyn archwilio deddfau, yn ogystal â pholisi’r Llywodraeth,” meddai’r Llywydd, Rosemary Butler.

“Yn ogystal â symleiddio’r strwythur mae’r Cynulliad hefyd wedi creu’r strwythur a’r amgylchedd fydd yn arwain at archwilio mesurau, polisïau a chyllid yn well.

“Rydw i’n hyderus y bydd y newid yn ei gwneud hi’n haws i bobol Cymru ddeall beth sy’n mynd ymlaen yn y Cynulliad.”

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn Cynulliad Cymru y bydd y rheini sydd â chyfrifoldeb dros bwyllgor yn cael rhwng £8,112 a £12,168 ar ben eu cyflog sylfaenol sef £53,852.

Y rhestr llawn

Plant a phobol ifanc (10 aelod)

Llafur: Christine Chapman (cadeirydd), Keith Davies, Julie Morgan, Lynne Neagle a Jenny Rathbone

Ceidwadwyr: Angela Burns a Suzy Davies

Plaid Cymru: Simon Thomas, Jocelyn Davies

Democratiaid Rhyddfrydol: Kirsty Williams

Yr amgylchedd a chynaladwyedd (10 aelod)

Llafur: Mick Antoniw, Rebecca Evans, Vaughan Gething, Julie James a David Rees

Ceidwadwyr: Antoinette Sabach a Russell George

Plaid Cymru: Dafydd Elis-Thomas (cadeirydd), Llyr Huws Gruffydd

Democratiaid Rhyddfrydol: William Powell

Iechyd a gofal cymdeithasol (10 aelod)

Llafur: Mick Antoniw, Mark Drakeford (cadeirydd), Rebecca Evans, Vaughan Gething a Lynne Neagle

Ceidwadwyr: Darren Millar a Janet Finch-Saunders

Plaid Cymru: Elin Jones, Lindsay Whittle

Democratiaid Rhyddfrydol: Kirsty Williams

Cymunedau a llywodraeth leol (10 aelod)

Llafur: Mike Hedges, Ann Jones (cadeirydd), Gwyn Price, Ken Skates a Joyce Watson

Ceidwadwyr: Mark Isherwood a William Graham

Plaid Cymru: Rhodri Glyn Thomas, Bethan Jenkins

Democratiaid Rhyddfrydol: Peter Black

Menter a Busnes (10 aelod)

Llafur: Keith Davies, Julie James, David Rees, Ken Skates a Joyce Watson

Ceidwadwyr: Andrew RT Davies (cadeirydd) a Byron Davies

Plaid Cymru: Alun Ffred Jones, Leanne Wood

Democratiaid Rhyddfrydol: William Powell

Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (un o bob plaid a’r dirprwy lywydd)

Llafur: Julie James

Ceidwadwyr: Antoinette Sanbach a David Melding (cadeirydd)

Plaid Cymru: Simon Thomas

Democratiaid Rhyddfrydol: Peter Black

Cyllid (wyth aelod)

Llafur: Christine Chapman, Julie Morgan, Ann Jones Mike Hedges

Ceidwadwyr: Nick Ramsay

Plaid Cymru: Ieuan Wyn Jones, Jocelyn Davies (cadeirydd)

Democratiaid Rhyddfrydol: Peter Black

Pwyllgor cyfrifon cyhoeddus (wyth aelod)

Llafur: Mike Hedges, Gwyn Price, Jenny Rathbone Julie Morgan

Ceidwadwyr: Darren Millar (cadeirydd) a Mohammad Asghar

Plaid Cymru: Leanne Wood

Democratiaid Rhyddfrydol: Peter Black

Deisebau (pedwar aelod)

Llafur: Joyce Watson

Ceidwadwyr: Russell George

Plaid Cymru: Bethan Jenkins

Democratiaid Rhyddfrydol: William Powell (cadeirydd)

Safonau (pedwar aelod)

Llafur: Mick Antoniw (cadeirydd)

Ceidwadwyr: Mark Isherwood

Plaid Cymru: Llyr Huws Gruffydd

Democratiaid Rhyddfrydol: Kirsty Williams