Carl Sargeant
Mae tri chomisiynydd oedd yn ail edrych ar ffiniau cynghorau Cymru wedi eu diswyddo ar ôl i adroddiad ddangos nad oedd y corff “yn gwneud ei waith”.

Cafodd cadeirydd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru, Paul Wood, ei ddirprwy, y Parch Hywel Meredydd Davies, a’r aelod, John Bader, ei diswyddo yn syth gan y gweinidog Carl Sargeant heddiw.

Daw’r diswyddiadau ar ôl pryderon am gynlluniau i leihau nifer y cynghorwyr yng Nghymru.

Honnodd swyddogion fod y comisiwn wedi gwneud “camgymeriad mathemategol mawr” wrth gyfrifo faint o gynghorwyr ddylai gynrychioli pob dinesydd.

Roedd cyn-bennaeth Comisiwn Etholiadol Cymru, Glyn Mathias, wedi cynnal ymchwiliad i’r comisiwn ar ran Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Carl Sargeant fod casgliadau’r ymchwiliad yn “ddifrifol” a’i fod wedi “penderfynu dod a phenodiadau’r tri chomisiynydd i ben”.

“Roedd yn bwysig gwneud hyn a phenodi comisiynwyr yn eu lle er mwyn arbed enw da’r comisiwn yng ngolwg y cyhoedd a’r llywodraethau lleol.”

Pwrpas y corff yw adolygu’r ffiniau o fewn cynghorau lleol.