Rebecca Aylward
Llofruddiodd bachgen ysgol ei gyn-gariad ar ôl i rywun addo brecwast am ddim iddo petai’n cyflawni’r weithred, clywodd cwest heddiw.

Cafodd Rebecca Aylward, 15, o Faesteg, ger Pen y Bont ar Ogwr, ei churo i farwolaeth o fewn wythnosau i’r ‘bet’.

Clywodd y llys fod ei llofrudd honedig, 16 oed, wedi ei denu hi i goedwig ddiarffordd ger Pen y Bont ar Ogwr cyn ei bwrw hi dros ei phen â charreg.

Cyn cyfarfod roedd o wedi dweud wrthi na ddylai hi roi gwybod i unrhyw un arall eu bod nhw’n cwrdd. Ond clywodd y rheithgor ei bod hi wedi rhoi gwybod i’w mam cyn gadael.

Ar ddechrau’r diwrnod roedd yr erlynydd Greg Taylor QC wedi rhoi rhestr o dermau i’r rheithgor sy’n cael eu defnyddio wrth tecstio a thrafod ar MSN a Facebook .

Dywedodd y byddai tystiolaeth o’r ffynonellau rheini yn chwarae rhan allweddol yn yr achos.

“Does dim amheuaeth fod Rebecca Aylward wedi ei llofruddio,” meddai.

“Cafodd ei tharo sawl gwaith ar ei phen â charreg mewn coedwig yn Abercynffig.

“Roedd yn bwrw ac fe gafodd hi ei gadael yn y fan a’r lle i farw, yn gorwedd ar ei hwyneb ar lawr gwlyb y goedwig mewn dillad newydd brynwyd iddi’r diwrnod cynt.

“Mae’r erlyniad yn dweud fod y bachgen yma wedi ei llofruddio hi. Mae’r amddiffyn yn gwadu hynny gan ddweud fod Rebecca wedi ei lladd gan ei ffrind gorau.

“Yr unig gwestiwn yw: pwy wnaeth hyn? Mae’r erlynyddion yn honni nad oes yna unrhyw amheuaeth mai’r diffynnydd wnaeth e.”

Mae’r bachgen, nad oes modd ei enwi am resymau cyfreithiol, yn wynebu cyhuddiad o lofruddio ar 23 Hydref y llynedd.

Dywedodd Greg Taylor QC ei fod ef a’r dioddefwr wedi bod mewn perthynas tua blwyddyn cyn y llofruddiaeth ac wedi cadw mewn cysylltiad.

Trafod y llofruddiaeth

Roedd y diffynnydd yn arfer cwrdd â’i ffrindiau mewn caffi lleol er mwyn cael brecwast.

Mewn un cyfarfod roedd wedi trafod llofruddio’r ferch, ond roedd ei ffrindiau yn cymryd ei fod yn cellwair.

Roedden nhw wedi dweud wrth yr heddlu yn ddiweddarach fod ganddo enw am ddweud y byddai yn gwneud pethau mawr ond byth yn ei gwneud nhw.

Ond mewn neges destun at gyfaill yn ddiweddarach gofynnodd: “Beth fyddet ti yn ei wneud petawn i’n ei lladd hi go iawn?”

“Fe fyddwn i’n prynu brecwast i ti,” oedd yr ateb.

Deuddydd cyn y llofruddiaeth cysylltodd eto â’i ffrind er mwyn cadarnhau y byddai yn ennill y ‘bet’.

“Paid dweud dim byd ond mae’n bosib y bydd rhaid i ti brynu brecwast i fi,” meddai.

Tecstiodd ei gyfaill yn ôl gan ddweud: “Rydw i eisiau’r holl fanylion, y bastad creulon. :) ”