Richard Burton
Bydd Richard Burton yn cael ei seren ei hun ar Rodfa Enwogion Hollywood, cyhoeddwyd heddiw.

Bydd gan cefnogwyr yr actor o Bontrhydyfen, ger Port Talbot, bum mlynedd i godi £28,000 er mwyn talu am greu a gosod y seren yn ei le.

Cafodd Richard Burton, fu farw yn 58 oed yn 1984, ei enwebu ar gyfer saith Oscar.

Mae tua 20 o enwau newydd yn cael eu hychwanegu at Rodfa’r Enwogion bob blwyddyn, gan gynnwys un neu ddau sydd wedi marw.

Dywedod cydlynydd yr ymgyrch, yr Athro Dylan Jones-Evans, ei fod yn gobeithio y byddai codi arian yn haws nawr eu bod nhw wedi ennill lle ar y rhodfa.

Mae’n nhw’n gobeithio codi £20,000 arall er mwyn cefnogi ysgoloriaethau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

‘Anodd credu’

Dywedodd llefarydd yr wrthblaid ar dreftadaeth, Suzy Davies, y dylai Richard Burton fod wedi ei gynnwys ar Rodfa’r Enwogion ynghynt.

Serch hynny roedd yn “newyddion gwych,” meddai.

“Mae’n anodd credu nad oedd gan actor o safon Burton eisoes seren yno. Mae enwogrwydd Richard Burton yn parhau i chwarae rhan pwysig wrth ddenu sylw rhyngwladol i Gymru a beth sydd gennym ni i’w gynnig.

“Mae llwybr newydd Richard Burton ym Mhontrhydyfen yn esiampl gwych o ddefnyddio’r atgofion amdano er mwyn cysylltu cymunedau.”

Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, na fydd “seren Richard Burton byth yn edwino”.