Adam Philips
Mae dyn wnaeth sefydlu Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi Wrecsam wedi ei wahardd rhag siarad yn y digwyddiad y flwyddyn nesaf.

Ond dywedodd Adam Philips nad oedd yn “cydnabod y gwaharddiad” ac nad y cyngor sy’n eiddo ar y dathliad.

Daw’r gwaharddiad wedi i Gyngor Wrecsam ddweud eu bod nhw wedi derbyn sawl cwyn gan aelodau o’r cyhoedd am rai o sylwadau ac un o ystumiau llaw Adam Philips yn ystod yr orymdaith ar 1 Mawrth.

Ysgrifennodd Phil Walton, cyfarwyddwr strategaeth a pherfformio’r Cyngor, ato ar 9 Mawrth gan ddweud ei fod wedi derbyn cwynion am ei araith.

Y cwynion

“Mae’r cwynion hyn yn ymwneud yn benodol ag araith fer gennych chi ar falconi Guildhall,” meddai Phil Walton wrth Adam Philips yn ei lythyr.

Roedd yn dweud bod “sawl person” wedi cwyno am “saliwt” ganddo, “gyda’i ddwrn wedi cau”, oedd yn “ymosodol” ac “anaddas”.

Dywed y llythyr ei fod wedi “defnyddio’r digwyddiad i hyrwyddo ei farn wleidyddol ei hun”.

Roedd Adam Philips wedi dweud yn ystod yr araith y dylai’r dorf bleidleisio o blaid rhagor o ddatganoli yn y refferendwm mis Mawrth, meddai.

Aiff y llythyr yn ei flaen i ddweud fod angen i Adam Philips “ddilyn cyfyngiadau a chonfensiynau” wrth “siarad mewn digwyddiadau fel hyn sy’n cael eu trefnu gan y Cyngor”.

Mae’n datgan “na fydd yn cael gwahoddiad i siarad mewn unrhyw orymdeithiau yn y dyfodol” am ei fod wedi “cymryd mantais ar gyfle i rannu ei farnau gwleidyddol personol”.

Mae Golwg360 yn disgwyl am ymateb llawn gan Gyngor Wrecsam.

‘Eisiau ymddiheuriad’

Ond dywedodd Adam Philips, sydd hefyd yn arweinydd band offerynnau taro Cambria, nad oedd gan y cyngor hawl i’w wahardd rhag siarad yn ystod yr orymdaith.

Ychwanegodd fod gwaharddiad y cyngor yn “llawdrwm” a’i fod wedi ysgrifennu at y Prif Weithredwr gan alw am ymddiheuriad.

“Fe fydda i yn siarad yn y digwyddiad flwyddyn nesaf,” meddai wrth Golwg 360, “er gwaethaf gwaharddiad y cyngor.

“Mae’n rhaid i Wrecsam fod yn andros o ofalus nad ydyn nhw’n troi’n ddigwyddiad yn rhyw fath o syrcas. Diwrnod i gofio Dewi Sant ydi o i fod.

“Dw i eisiau iddyn nhw dynnu’r llythyr yn ôl ac ymddiheuro. Mae angen i bawb gydweithio os yw’r orymdaith am fod yn llwyddiant yn y dyfodol.

“Mae’r orymdaith yn rhywbeth i’r bobol. Dim ond helpu i’w drefnu mae’r Cyngor – dydi hi ddim yn eiddo i neb.”

Gwrthododd yr honiad ei fod wedi camddefnyddio’r araith er mwyn rhoi ei farn bersonol.

“Rydw i’n Gymro ac yn ymfalchïo yn hynny. Y peth pwysicaf i mi nawr yw bod pobl Wrecsam yn gwneud y digwyddiad yn llwyddiant ac yn datrys y sefyllfa’n gyflym.”

‘Cefnogi’

Dywedodd Carrie Harper, un o Gynghorwyr Plaid Cymru’r dref, wrth Golwg360 nad oedd y gwaharddiad yn un dilys.

Ychwanegodd fod y modd y mae Cyngor Wrecsam wedi delio’r â’r achos yn “warthus” ac yn “adlewyrchu’n ddrwg” arnyn nhw.

“Dim eiddo’r Cyngor yw’r orymdaith,” meddai. “Mae eu hymateb nhw wedi bod yn eithafol a dros ben llestri.

“Adam oedd wedi gwahodd y Cyngor i gymryd rhan yn y digwyddiad pan gafodd ei sefydlu tair blynedd yn ôl. Dydi o heb wneud dim o’i le.

“Maen nhw’n ceisio cyfyngu ar ryddid unigolyn i ddweud ei ddweud. Does gen i ddim syniad pwy gwynodd ond mae’r cyngor wedi bod yn benstiff iawn.

“Mae pobl leol yn cymryd balchder mawr yn yr orymdaith. Mae wedi tyfu’n llwyddiannus dros y blynyddoedd.”