Bwydo o'r fron
Mae Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer y menywod sy’n dewis bwydo eu babanod o’r fron.

Mae’r ffigyrau a gyhoeddwyd yr wythnos yma yn dangos fod 71% o fabanod Cymru bellach yn cael eu bwydo o’r fron.

Dim ond 67 y cant oedd yn cael eu bwydo o’r fron yn 2005.

Serch hynny mae’r ffigyrau hefyd yn amlygu pryderon ynglŷn ag ysmygu yn ystod beichiogrwydd.

Mae’r Arolwg Bwydo Babanod 2010 yn dangos fod 33 y cant o famau yng Nghymru wedi ysmygu ar ryw bwynt yn ystod y 12 mis cyn neu yn ystod beichiogrwydd.

Dim ond 50 y cant o’r rheini oedd yn ysmygu rhoddodd y gorau iddi wrth eu bod nhw’n feichiog.

Cyhoeddwyd y ffigyrau yn ystod yr Wythnos Bwydo o’r Fron genedlaethol sy’n anelu at hysbysu mamau am fudd bwydo o’r fron iddyn nhw a’r babi.

“Mae’n braf gweld fod rhagor o famau yn bwydo eu plant o’r fron, yn enwedig mamau ifanc, ond rydw i’n pryderu am nifer y mamau sy’n parhau i ysmygu,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths.

“Gall yr arbenigwyr iechyd sy’n gyfrifol am y cynnydd mewn bwydo o’r fron hefyd chwarae rhan allweddol wrth annog mamau i roi’r gorau i ysmygu.”

Dywedodd y Prif Swyddog Meddygol, Dr Tony  Jewell, mai ei gyngor oedd na ddylai unrhyw un ysmygu yn ystod beichiogrwydd.

Roedd yn gallu achosi problemau yn ystod yr enedigaeth ac yn ddiweddarach, meddai.